Road Safety Wales
  • Home
  • News
  • Calendar
  • Newsletter
  • Education
  • Training
  • Resources
  • Statistics
  • Reference Centre
  • Child Car Seats
  • CRASH Cards
  • Contacts

Advice for Drivers and Riders: Horses

If you are approaching a horse and rider, the first thing to do is reduce your speed to a maximum of 10mph and be prepared to stop.

horse

Please make sure you keep well back and avoid revving your engine or sounding your horn. The rider will more than likely be aware of your presence but may always not have the opportunity to acknowledge the situation as that could involve turning around or removing their hands from the reins.

Please be patient and give the rider time to find a gateway or another place at the side of the road where there should be enough space between the horse and your vehicle to allow you to pass safely.

If the road is wide enough and it looks as if there will be an opportunity to overtake safely, please ensure you will be able to do so without rushing. If in doubt wait for a larger gap or somewhere with even better visibility.

It is essential that all road users pass slow and wide – whether you’re driving a car, heavy goods vehicle, motorcycle or a bicycle. Only once you are well past will it be appropriate to gradually build up speed again and continue your journey.

Please remember that the rider will always be very grateful for your consideration when passing. They may not always be able to acknowledge it if they’re busy assisting their horse, but rest assured that your patience and understanding is greatly appreciated.


Promoting safer driving behaviour around horses

Road Safety Wales is highlighting the vulnerability of horses and their riders through a campaign which reminds drivers of their responsibilities when sharing road space with equestrian road users.

horse poster

From the initiative’s beginning in Carmarthenshire, the new campaign posters, aligned to the latest Highway Code, have now been made available to all 22 Local Authorities in Wales.

Teresa Ciano, Chair of the partnership said, “Road Safety Wales is grateful to Carmarthenshire County Council for instigating a driver awareness campaign which can now be implemented across Wales, with the support of the Welsh Government.

“Our thanks also to the British Horse Society for providing invaluable data via the incident reporting section of their website, bhs.org.uk. This has helped ensure the advice can be located where most needed, at incident hotspot locations as well as on routes frequently used by the equestrian community.”

Carmarthenshire County Council’s Cabinet Member for Transport, Waste and Infrastructure Services Cllr Edward Thomas said: “I am delighted that this campaign, which was launched in Carmarthenshire last summer, is now being extended across Wales.

“It is important that drivers, particularly in more rural areas in Wales, are aware that there are likely to be horses on the road and that they treat them with respect by not driving too fast and giving them plenty of space.”

The Minister for Climate Change with responsibility for Transport, Julie James said: "Motorists often need reminding of the dangers posed to horses and riders, particularly when driving on country roads during the holiday season and I am grateful to Road Safety Wales for introducing this very important campaign."

Cyngor i Yrwyr a Reidwyr: Ceffylau

 Os ydych chi'n agosáu at geffyl a marchog, y peth cyntaf i'w wneud yw arafu i 10mya fan bellaf a bod yn barod i stopio.

horse

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'n bell yn ôl ac osgoi refio’ch injan neu swnio’ch corn. Mae’n fwy na thebyg y bydd y marchog yn ymwybodol eich bod chi yno ond efallai na fydd bob amser yn cael cyfle i gydnabod y sefyllfa gan y gallai hynny olygu troi neu dynnu ei ddwylo oddi ar yr awenau.

Byddwch yn amyneddgar a rhowch amser i'r marchog ddod o hyd i glwyd neu le arall wrth ochr y ffordd lle dylai fod digon o le rhwng y ceffyl a'ch cerbyd chi i'ch galluogi i basio'n ddiogel.

Os yw'r ffordd yn ddigon llydan ac os yw'n edrych y bydd yna gyfle i oddiweddyd yn ddiogel, gofalwch eich bod yn gallu gwneud hynny heb ruthro.  Os oes amheuaeth, arhoswch am fwy o fwlch neu rywle lle gallwch chi weld yn well byth.

Mae'n hanfodol bod pob defnyddiwr ffordd yn pasio’n araf ac yn llydan – p'un a ydych yn gyrru car, cerbyd nwyddau trwm, beic modur neu feic. Dim ond ar ôl ichi fynd ymhell heibio y bydd yn briodol ichi gynyddu’ch cyflymder yn raddol eto a pharhau â'ch taith.

Cofiwch y bydd y marchog bob amser yn ddiolchgar iawn am eich ystyriaeth wrth ichi basio. Efallai na fydd bob amser yn gallu cydnabod hynny os yw’n brysur yn helpu’r ceffyl, ond gallwn eich sicrhau bod eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.


Hybu ymddygiad mwy diogel wrth yrru yn ymyl ceffylau

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn tanlinellu mor agored i niwed yw ceffylau a'u marchogion drwy ymgyrch sy'n atgoffa gyrwyr am eu cyfrifoldebau wrth rannu lle ar y ffordd gyda defnyddwyr ffyrdd sydd â cheffylau.

horse poster

Ers dechrau'r fenter yn Sir Gaerfyrddin, mae posteri newydd yr ymgyrch sy’n cyd-fynd a'r fersiwn diweddaraf o Reolau’r Ffordd Fawr, wedi'u darparu bellach i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd y bartneriaeth, "Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn ddiolchgar i Gyngor Sir Gâr am ysgogi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymysg gyrwyr a all gael ei rhoi ar waith bellach ledled Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

"Diolch hefyd i Gymdeithas Ceffylau Prydain am ddarparu data amhrisiadwy drwy'r adran riportio digwyddiadau ar eu gwefan nhw bhs.org.uk. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod modd gosod y cyngor yn y fan lle mae'r angen mwyaf, mewn mannau lle mae llawer o ddigwyddiadau yn ogystal ag ar lwybrau sy'n cael eu defnyddio'n aml gan gymuned y ceffylau."

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Gwasanaethau Seilwaith: "Rwy'n falch iawn fod yr ymgyrch yma, gafodd ei lansio yn Sir Gaerfyrddin yr haf diwethaf, yn cael ei hymestyn ledled Cymru erbyn hyn.

"Mae'n bwysig bod gyrwyr, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig yng Nghymru, yn ymwybodol bod ceffylau yn debygol o fod ar y ffordd a'u bod nhw'n eu trin nhw gyda pharch drwy beidio gyrru'n rhy gyflym a rhoi digon o le iddyn nhw."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Julie James: "Yn aml, mae angen atgoffa modurwyr am y peryglon sy'n cael eu creu i geffylau a marchogion, yn enwedig wrth yrru ar ffyrdd cefn gwlad yn ystod y tymor gwyliau ac rwy'n ddiolchgar i Diogelwch Ffyrdd Cymru am gyflwyno'r ymgyrch bwysig iawn yma."

About

  • Copyright
  • Privacy Policy
  • Contact Us

Follow Us

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube

Log in

  • Members

© Road Safety Wales 2026