Road Safety Wales
  • Home
  • News
  • Calendar
  • Newsletter
  • Education
  • Training
  • Resources
  • Statistics
  • Reference Centre
  • Child Car Seats
  • CRASH Cards
  • Contacts

Child Car Seats

Choosing and using child car seats

Until a child reaches 14 years old it is the driver's legal responsibility to ensure that the child is correctly restrained.

Children must use the correct child car seat until they are 12 years old or 135cm tall whichever comes first. Extending the use of a child car seat until the child reaches up to 150cm in height will protect them for longer.


Choose a child car seat based on the child’s height or weight

Weight-based seats

These relate broadly to different age groups but it is the weight of the child that is most important.

Weight-based seats must have a label showing a capital ‘E’ in a circle and ‘ECE R44’.

While it is legal under the current regulation (R44.04) for children to use a forward-facing Group 1 seat when they weigh 9kg or more, it does not offer the child the best protection.

It is recommended to keep the child rear-facing for as long as possible.

 Group 0
 0 to 10kg (22lb)
 Group 0+
 0 to 13kg (29lb)
 Rear-facing
 Group 1
 9 to 18kg (20 to 40lb)
 
 Rear/forward-facing
 Group 2
 15 to 25kg (33 to 55lb)    
 Group 3
 22 to 36kg (48 to 79lb)
 High-backed booster seat or booster cushion  

You may be able to choose a combination seat which covers more than one group.

A booster cushion, without a back or side wings, is not recommended as it removes side and head protection from the child car seat.


Height-based seats

These focus on the child’s height.
Ensure that the child's height is within range of the seat that you intend to use.

Height-based seats must have a label showing a capital ‘E’ in a circle and ‘R129’.

The child must be rear-facing until they are over 15 months old, but it is recommended to remain rear-facing as long as possible as this offers greater protection.

Height-based child car seats displaying an ‘i-size’ logo are compatible with ‘i-size’ certified vehicles.


► Ensuring the correct fit

► Other points to consider

► Download the leaflet

 

Seddi Car i Blant

Dewis a defnyddio seddi car i blant

Nes bod plentyn yn cyrraedd 14 oed, cyfrifoldeb cyfreithiol y gyrrwr yw sicrhau bod y plentyn yn cael ei atal yn gywir.

Rhaid i blant ddefnyddio'r sedd car cywir i blant nes eu bod yn 12 oed neu’n 135cm o daldra p’un bynnag sy'n dod gyntaf. Bydd ymestyn defnydd sedd car i blentyn nes bod y plentyn yn cyrraedd hyd at 150cm o daldra yn eu hamddiffyn nhw am gyfnod hirach.


Dewiswch sedd car i blentyn ar sail taldra neu bwysau’r plentyn

Seddi sy’n seiliedig ar bwysau

Mae'r rhain yn ymwneud yn fras â gwahanol grwpiau oedran ond pwysau'r plentyn sydd bwysicaf.

Rhaid i seddi sy'n seiliedig ar bwysau fod â label sy'n dangos y briflythyren 'E' mewn cylch ac 'ECE R44'.

Mae’n gyfreithlon o dan y rheoliad presennol (R44.04) i blant ddefnyddio sedd Grŵp 1 sy'n wynebu’r blaen pan fyddan nhw’n pwyso 9kg neu fwy, ond nid dyna sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau i'r plentyn.

Argymhellir cadw'r plentyn yn wynebu'r cefn cyn hired â phosibl.

 Grŵp 0
 0 to 10kg (22 pwys)
 Grŵp 0+
 0 to 13kg (29 pwys)
 Yn wynebu'r cefn
 Grŵp 1
 9 to 18kg (20 to 40 pwys)
 
 Yn wynebu’r cefn/blaen
 Grŵp 2
 15 to 25kg (33 to 55 pwys)    
 Grŵp 3
 22 to 36kg (48 to 79 pwys)
 Sedd hybu â chefn uchel neu glustog hybu  

Efallai y byddwch chi’n gallu dewis sedd gyfunol sy'n cwmpasu mwy nag un grŵp.

Dydyn ni ddim yn argymell clustog hybu sydd heb gefn neu adenydd ochr, gan ei fod yn tynnu’r amddiffyniad i’r ochr a’r pen sydd gan y sedd car i blentyn.


Seddi sy’n seiliedig ar daldra

Mae'r rhain yn canolbwyntio ar daldra'r plentyn, yn hytrach na’u pwysau.

Gofalwch fod taldra'r plentyn o fewn amrediad uchder y sedd rydych chi'n bwriadu ei defnyddio.

Rhaid i seddi sy'n seiliedig ar daldra fod â label sy'n dangos y briflythyren 'E' mewn cylch ac 'R129'.

Rhaid i'r plentyn wynebu'r cefn nes eu bod dros 15 mis oed, ond argymhellir eu cadw’n wynebu'r cefn cyn hired â phosibl gan fod hyn yn cynnig mwy o amddiffyniad.

Mae seddi car i blant sy'n seiliedig ar daldra sy'n dangos logo 'i-size' yn gydnaws â cherbydau ‘i-size’ ardystiedig.


► Sicrhau’r ffit gywir

► Pwyntiau eraill i'w hystyriedr

► Lawrlwytho'r daflen

 

 

About

  • Copyright
  • Privacy Policy
  • Contact Us

Follow Us

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube

Log in

  • Members

© Road Safety Wales 2025