Road Safety Wales
  • Home
  • News
  • Calendar
  • Newsletter
  • Education
  • Training
  • Resources
  • Statistics
  • Reference Centre
  • Contacts
  • Kerbcraft
    • Volunteers
    • News
  • Child Pedestrian Training Film

    Training

  • Kerbcraft
  • Child Pedestrian Training Film

Training

Training is mostly concerned with creating or developing practical skills, is short term in duration and includes activities such as pedestrian training, cycle training, post-test driver training and motorcycle training.

Partners in Road Safety Wales can:

  • Identify the need for appropriate training and assist in its development
  • Enable training courses to happen
  • Provide resources for these courses to promote training for at risk groups of road users
  • Deliver courses where necessary
  • Ensure the schemes are widely and appropriately advertised
  • Ensure courses are risk assessed and monitored for safety and content.

Good Practice Guidelines have been published for many types of road safety training schemes, such as the Kerbcraft child pedestrian skills training scheme, and many organisations provide training courses or training resources for specific road user groups.


Primary Training

Kerbcraft/Child Pedestrian Training

Promoted throughout all 22 Local Authorities in Wales as a result of special funding from the Welsh Government. The schemes teaches children aged 5-7 how to be safe pedestrians. The children are taken out of school by trained volunteers, in groups of no more than three, to learn three main skills:

  • choosing safe places and routes to cross the road
  • crossing safely at parked cars
  • crossing safely near junctions

Find out more about Kerbcraft in Wales.

Cycle Training

All local authorities in Wales offer cycle training. It is generally available when pupils reach year 6 (although occasionally it is offered to year 5). Traditionally cycle training has been undertaken off road i.e. the schoolyard, but in recent years more and more local authorities have been training children on road so that they can experience real traffic situations. This gradual change in cycle training has led to the introduction of the National Standards for Cycle Training. For details of the Standards click here.

National Standards or Bikeability is a three stage training programme which takes you from the basic skills of balance and manoeuvring to bespoke training to allow you to confidently cycle on all roads in your local area.

For details of cycle training provision in a particular local authority contact the appropriate Road Safety Officer.


Secondary Training

Pre-driver Training

As an example, the Mega Drive scheme was originally set up in Gwent in 1995 to address the very serious problem of young drivers being involved in a disproportionate number of road crashes, largely because of their inexperience. Mega Drive is delivered to college age students who will be planning on sitting their practical driving test in the not too distant future and may not be aware of all the potential hazards that come with driving on British roads.

Students participating in Mega Drive visit interactive workstations in groups of three where they learn vital information on driving related topics. These can include:

  • hazard awareness
  • essential documents
  • crash causation
  • effects and consequences of drink and drugs
  • buying a new or second hand car
  • what to do at the scene of a crash

Year after year the workstation that proves to be the most popular is when the students get the opportunity to get into the driver’s seat. They are given the opportunity to drive around a special course whilst accompanied by an approved driving instructor. This often gives the students their first taste of what being behind the wheel is really like.

To check the availability of pre-driver schemes in your area contact your local Road Safety Officer.

Cycle Training

Traditionally cycle training has been undertaken off road i.e. the schoolyard, but in recent years more and more local authorities have been training children on road so that they can experience real traffic situations. This gradual change in cycle training has led to the introduction of the National Standards for Cycle Training. For details of the Standards click here

National Standards Cycle Training is a three stage training programme which takes you from the basic skills of balance and manoeuvring to bespoke training to allow you to confidently cycle on all roads in your local area.

For details of cycle training provision in a particular local authority contact the appropriate Road Safety Officer.


Adult Groups

Pass Plus Cymru

Passed your driving test?
Or do you know a young person who’s just passed their test?
Here’s the plus side…..
Discover more driving techniques, hints and tips for just £20 (the rest is covered by Welsh Government through grant funding to the local authorities)
(if you’re aged between 17-25 and live in Wales).
And there’s no test!

Here’s how it works

You’ll focus on:

  • Heading off on the motorway
  • Driving techniques and hazard awareness
  • Getting around at night
  • Coping with busy towns and cities
  • Driving on rural country roads
  • Thinking ahead

What do you get from it?

  • Better driving skills
  • More chance of lower insurance
  • Less chance of a collision, or injuring yourself, friends and others

Look at www.dragondriver.com or call 02920 250 600 to book onto a course.

Pass Plus Cymru is an enhanced version of the standard Pass Plus course and is supported by the Driver and Vehicle Standards Agency.

It’s a short expert-led higher driving course designed to develop techniques, increase awareness and widen experience.

To check the current availability of subsidised courses in your local authority visit www.dragondriver.com

Young people are over represented in incident statistics and the Welsh Government is working with Road Safety Wales to encourage young drivers to become even better drivers with the ultimate objectives of reducing incidents and saving lives.

Adult Cycle Training

National Standards Cycle Training is a three stage training programme which takes you from the basic skills of balance and manoeuvring to bespoke training to allow you to confidently cycle on all roads in your local area.

Opportunities for adults to train to be safe riders are increasing throughout Wales. Contact your local Road Safety Officer for details.

Mature Drivers Refresher Courses

Mature drivers are statistically less likely to be involved in a road crash than younger or less experienced drivers. Research shows that mature drivers tend to make fewer and shorter journeys than other age groups and travel on familiar roads, mainly during daylight hours. However, the inevitable effect of the ageing process can affect your sight, hearing and judgement and you may not be aware of these gradual changes.

If you would like to update your driving skills, contact your Road Safety Officer to check the availability of courses in your area or visit olderdrivers.org.uk.

BikeSafe Cymru

BikeSafe - Bridging the Gap, an initiative undertaken by the four Welsh Police Forces, supported by Central and Local Government, helps to assess and advise motorcyclists on how to get the best from their riding, whilst maintaining safety. Motorcyclists are 40 times more likely to be killed than a car driver; therefore it is vital that riders take the opportunity for extra training to ensure they are able to protect themselves on the road. Visit the BikeSafe website for more information and to book.

A website all about safe motorcycling in Wales written and managed by professional bikers for bikers can be viewed here

"Not Playing Anymore" TV Advert

Advanced Driving

95% of road accidents are caused by driver error. Most people become involve in advanced driving because they want to know that they are driving as safely as possible and to improve on their skills.

It is always difficult to tell how good a driver you are, but being a good driver means that you never stop learning.

By improving your driving skills, you will not only become a better driver but also enjoy your driving more.

Advanced driving groups can be found on our links page.

Hyfforddiant

Mae hwn yResourcesn ymwneud yn bennaf â chreu neu ddatblygu sgiliau ymarferol, yn para cyfnod byr ac yn cynnwys gweithgareddau fel hyfforddi cerddwyr, hyfforddiant beicio, hyfforddiant i yrwyr ar ôl iddynt lwyddo yn y prawf gyrru, a hyfforddiant i feicwyr modur.

Rôl Partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yw:

  • Canfod yr angen am hyfforddiant priodol a helpu i’w ddatblygu
  • Galluogi cynnal cyrsiau hyfforddi
  • Darparu adnoddau ar gyfer y cyrsiau hynny er mwyn hyrwyddo hyfforddiant i’r grwpiau o ddefnyddwyr y ffyrdd sydd mewn perygl
  • Cyflwyno’r cyrsiau, lle bo’u hangen
  • Sicrhau hysbysebu eang a phriodol ar y cynlluniau
  • Sicrhau y caiff y cyrsiau eu hasesu o ran eu risg a’u monitro o ran eu diogelwch a’u cynnwys.

Mae Canllawiau Arfer Da wedi’u cyhoeddi ar gyfer llawer math gwahanol o gynlluniau hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd. Enghraifft o’r rheiny yw cynllun hyfforddi Kerbcraft sy’n dysgu sgiliau i blant sy’n cerdded. Mae llawer o gyrff hefyd yn darparu cyrsiau neu adnoddau hyfforddi i grwpiau penodol o ddefnyddwyr y ffyrdd.


Hyfforddiant Cynradd

Kerbcraft/Hyfforddiant plant i gerddwyr

Caiff hwn ei hyrwyddo ym mhob un o’r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru am fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid arbennig ar ei gyfer. Bydd y cynllun yn dysgu plant 5-7 oed sut mae cerdded yn ddiogel yn ymyl ffyrdd. Bydd gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn mynd â grwpiau o ddim mwy na thri o blant allan o’r ysgol i ddysgu tri phrif sgìl, sef:

  • dewis mannau a llwybrau diogel i groesi’r ffordd
  • croesi’n ddiogel yn ymyl ceir sydd wedi’u parcio
  • croesi’n ddiogel yn ymyl cyffyrdd

Kerbcraft yng Nghymru

Hyfforddiant Beicio

Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant beicio. Fel rheol, bydd ef ar gael pan fydd disgyblion yn cyrraedd blwyddyn 6 (er y caiff ei gynnig ambell waith i flwyddyn 5). Y drefn draddodiadol oedd rhoi hyfforddiant beicio oddi ar y ffordd, h.y. ar iard yr ysgol, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o awdurdodau lleol wedi bod yn hyfforddi plant ar y ffordd er mwyn iddynt gael profiad o sefyllfaoedd traffig go-iawn. Gan fod y newid graddol hwn mewn hyfforddiant beicio wedi arwain at gyflwyno Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio. Bydd y broses yn cynnwys rhoi hyfforddiant beicio i oedolion. I weld manylion y Safonau, cliciwch ar .

Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol.

I gael manylion y ddarpariaeth hyfforddiant beicio mewn awdurdod lleol penodol, cysylltwch â’r Swyddog priodol ym maes Diogelwch ar y Ffyrdd.


Uwchradd

Hyfforddiant cyn gyrru

Yn wreiddiol, fe sefydlwyd cynllun Mega Drive yng Ngwent ym 1995 oherwydd problem ddifrifol iawn, sef bod nifer anghymesur o yrwyr ifanc mewn damweiniau ar y ffordd, yn bennaf oherwydd eu diffyg profiad. Caiff Mega Drive ei gyflwyno i fyfyrwyr coleg sy’n bwriadu cymryd eu prawf gyrru ymarferol cyn bo hir iawn heb iddyn nhw wybod, efallai, am yr holl beryglon a all godi wrth yrru ar ffyrdd Prydain.

Bydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn Mega Drive yn ymweld â’r gweithfannau rhyngweithiol mewn grwpiau o dri i gael gwybodaeth hanfodol am faterion gyrru, gan gynnwys:

  • ymwybyddiaeth o beryglon
  • dogfennau hanfodol
  • achosion damweiniau
  • effeithiau a chanlyniadau yfed a chymryd cyffuriau
  • prynu car newydd neu ail-law
  • beth i’w wneud yn y fan a’r lle os bydd damwain

O flwyddyn i flwyddyn, y weithfan fwyaf poblogaidd yw honno lle caiff y myfyrwyr gyfle i fentro i sedd y gyrrwr. Fe gân nhw gyfle hefyd i yrru o gwmpas cwrs arbennig yng nghwmni hyfforddwr gyrru sydd wedi’i gymeradwyo. Dyma, i lawer o’r myfyrwyr, eu profiad cyntaf o fod y tu ôl i’r llyw.

I wirio argaeledd cynlluniau cyn-yrrwr yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol.

Hyfforddiant Beicio

Y drefn draddodiadol oedd rhoi hyfforddiant beicio oddi ar y ffordd, h.y. ar iard yr ysgol, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy a mwy o awdurdodau lleol wedi bod yn hyfforddi plant ar y ffordd er mwyn iddynt gael profiad o sefyllfaoedd traffig go-iawn. Gan fod y newid graddol hwn mewn hyfforddiant beicio wedi arwain at gyflwyno Safonau Cenedlaethol Hyfforddiant Beicio, mae awdurdodau wrthi’n ceisio gweithredu’r Safonau hynny. Bydd y broses yn cynnwys rhoi hyfforddiant beicio i oedolion. I weld manylion y Safonau, cliciwch ar www.gov.uk/the-national-standard-for-cycle-training

Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol.

I gael manylion y ddarpariaeth hyfforddiant beicio mewn awdurdod lleol penodol, cysylltwch â’r Swyddog priodol ym maes Diogelwch ar y Ffyrdd.


Grwpiau o Oedolion

Pass Plus Cymru

Wedi pasio eich prawf gyrru?
17-25 oed ac yn byw yng Nghymru?
Neu ydych chi’n adnabod person ifanc sydd newydd basio’i brawf?
Dyma’r newyddion da…..
Cyfle i ddysgu mwy am dechnegau gyrru, a chael awgrymiadau a chynghorion pellach am £20 yn unig (Llywodraeth Cymru yn cymorthdalu’r cwrs drwy’r awdurdodau lleol)
A does dim prawf!

Dyma sut mae’n gweithio

Byddwch yn canolbwyntio ar:

  • Fynd ar y draffordd
  • Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
  • Mynd o gwmpas yn y nos
  • Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur  
  • Gyrru ar ffyrdd gwledig
  • Meddwl ymlaen – yn union fel y gwnewch chi nawr

Pa fantais gewch chi o hyn?

  • Sgilau gyrru gwell
  • Gallech fod yn talu llai o yswiriant
  • Llai o berygl o gael damwain neu o anafu’ch hun, eich ffrindiau a phobl eraill

Ewch i www.dragondriver.com neu ffoniwch 02920 250 600 i archebu lle ar gwrs.

Fersiwn estynedig o’r cwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru a gefnogir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau.

Mae’n gwrs gyrru uwch byr, dan arweiniad arbenigwr, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i ddatblygu technegau gyrru, bod yn fwy ymwybodol o beryglon ac ehangu profiad. I wirio argaeledd cyrsiau cymorthdaledig yn eich awdurdod lleol ar hyn o bryd ewch i www.dragondriver.com

Yn ôl yr ystadegau, mae mwy o bobl ifanc yn cael damweiniau na phobl hyn ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru er mwyn annog pobl ifanc i ddod yn yrwyr gwell gyda’r nod o leihau damweiniau ac achub bywydau.

Hyfforddiant Beicio i Oedolion

Rhaglen hyfforddi mewn tri cham yw Safonau Cenedlaethol ac fe aiff â chi o sgiliau sylfaenol cydbwyso a llywio i hyfforddiant penodol i’ch galluogi i feicio’n hyderus ar bob ffordd yn eich ardal leol.

Mae’r cyfleoedd i oedolion gael eu hyfforddi i feicio’n ddiogel yn cynyddu ledled Cymru. Cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol i gael y manylion.

Cyrsiau Ymadnewyddu i Yrwyr Aeddfed

Yn ôl yr ystadegau, mae gyrwyr aeddfed yn llai tebyg o fod mewn damwain ar y ffordd na gyrwyr ifanc neu lai profiadol. Mae’r ymchwil yn dangos bod tuedd i yrwyr aeddfed wneud llai o deithiau, a theithiau byrrach, na’r grwpiau oedran eraill, a theithio ar ffyrdd cyfarwydd yn ystod oriau’r dydd yn bennaf. Ond gan mai effaith anochel y broses heneiddio, yn aml, yw amharu ar eich golwg, eich clyw a’ch barn, efallai na fyddwch chi’n sylweddoli bod y newidiadau graddol hynny’n digwydd.

Os hoffech chi ddiweddaru’ch sgiliau gyrru, holwch eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd a oes cyrsiau ar gael yn eich ardal chi. olderdrivers.org.uk

BikeSafe Cymru

Bydd BikeSafe – Pontio’r Bwlch, sef menter gan bedwar Heddlu Cymru gyda chefnogaeth y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Leol, yn helpu i asesu a chynghori beicwyr modur ynghylch mwynhau teithio a chadw’n ddiogel. Gan fod beicwyr modur 40 gwaith yn fwy tebyg o gael eu lladd na gyrwyr ceir, mae’n hanfodol iddyn nhw fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant ychwanegol a sicrhau y gallan nhw deithio’n ddiogel ar y ffordd. Ewch i wefan BikeSafe.

Gwefan am feicio modur yn ddiogel yng Nghymru, wedi'i hysgrifennu a'i rheoli gan feicwyr proffesiynol i feicwyr

"Nid yn Chwarae mwyach" teledu Hysbyseb

Uwch-Yrru

Gan mai camgymeriadau gan yrwyr sy’n achosi 95% o ddamweiniau ar y ffyrdd, bydd y mwyafrif o bobl sy’n dilyn cyrsiau uwch-yrru yn gwneud hynny er mwyn gwybod eu bod yn gyrru mor ddiogel â phosibl ac er mwyn gwella’u sgiliau.

Mae hi bob amser yn anodd dweud pa mor dda rydych chi’n gyrru, ond mae bod yn yrrwr da yn golygu na fyddwch chi byth yn gorffen dysgu.

Drwy wella’ch sgiliau gyrru, byddwch chi nid yn unig yn well gyrrwr ond hefyd yn mwynhau gyrru’n fwy.

Cewch hyd i Grwpiau uwch-yrru ar dudalen y cysylltau.

About

  • Copyright
  • Privacy Policy
  • Contact Us

Follow Us

  • Facebook
  • Twitter
  • YouTube

Log in

  • Members

© Road Safety Wales 2023